Grŵp Trawsbleidiol ar Dai
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2015
1. Aelodaeth:
· Sandy Mewies AC, cadeirydd y grŵp ac yn cynrychioli'r blaid Lafur, un o Gomisiynwyr y Cynulliad a chyn-gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.
· Jocelyn Davies AC, cynrychiolydd Plaid Cymru a chyn-Weinidog Tai.
· Mark Isherwood AC, llefarydd yr wrthblaid ar Dai, yn cynrychioli'r Ceidwadwyr.
· Peter Black AC, cyn-Ddirprwy Weinidog Tai, yn cynrychioli'r Democratiaid Rhyddfrydol.
2. Ysgrifenyddiaeth:
· Helen Northmore, Cyfarwyddwr, y Sefydliad Tai Siartredig. (Ionawr-Medi)
· Julie Nicholas, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus, Sefydliad Tai Siartredig Cymru (Medi-Rhagfyr)
3. Cyfarfodydd yn 2015:
Cynhaliodd y grŵp trawsbleidiol dri chyfarfod yn 2015.
4. Datganiad Ariannol
CYFRIFON Y GRŴP TRAWSBLEIDIOL AR DAI 2015 |
|
INCWM |
|
Taliadau lluniaeth ysgafn Sefydliad Tai Siartredig Cymru |
£86.46 |
CYFANSWM INCWM |
£86.46 |
GWARIANT |
|
Cost arlwyo (lluniaeth ysgafn yn y cyfarfod ar 17.06.15) |
£56.46 |
Cost arlwyo (lluniaeth ysgafn yn y cyfarfod ar 25.11.15) |
£30.00 |
CYFANSWM GWARIANT |
£86.46 |
BALANS |
£0.00 |
5. Y Flwyddyn ym maes Tai
Roedd 2015 yn flwyddyn arwyddocaol arall o ran tai yng Nghymru.
Dechreuodd y gwaith o weithredu Deddf Tai cyntaf Cymru, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i roi sail statudol i doll atal digartrefedd ym mis Ebrill, a lansiwyd brand Rhentu Doeth Cymru i gyflwyno trwyddedau gorfodol i landlordiaid preifat.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Bapur Gwyn ym mis Ionawr i ymgynghori ar Ddyfodol yr Hawl i Brynu a’r Hawl i Gaffael ym maes Tai Cymdeithasol, ac agorodd ymgynghoriad ynghylch y cynigion ar gyfer dangosyddion cenedlaethol i fesur nodau lles Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).
Parhaodd polisïau tai Cymru i symud i ffwrdd o'r drefn yn Lloegr gyda phob plaid yn cefnogi darparu tai fforddiadwy, a chafodd y rhaglen Cefnogi Pobl ei diogelu i raddau helaeth.
Cyhoeddodd y Gweinidog Lesley Griffiths gyllid ychwanegol i gynyddu nifer y tai cymdeithasol yng Nghymru a rhoddodd sicrwydd i landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru na fyddai'r polisi rhentu yn newid ar ôl i ostyngiad blynyddol o 1 y cant gael ei gyhoeddi yn Lloegr.
Cwblhaodd Bil Rhentu Cartrefi (Cymru) Gyfnod 4, sef pasio'r Bil yn y Cyfarfod Llawn, ac roedd yn aros am Gydsyniad Brenhinol ddechrau'r flwyddyn newydd yn 2016, er mwyn darparu deddfwriaeth a fydd yn diwygio tenantiaeth yng Nghymru yn llwyr.
Yn dilyn adolygiad annibynnol o'r cynllun Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, sy'n werth £100 miliwn, gwelwyd ei fod yn sicrhau buddion sylweddol i economi Cymru a chymunedau ledled y wlad, a chafodd Cymorth i Brynu - Cymru ei ymestyn.
Ym mis Hydref, cafwyd adroddiadau bod 91 y cant o'r targed i ddarparu 10,000 o dai fforddiadwy ychwanegol yn ystod tymor presennol y Cynulliad eisoes wedi'i gyflawni, gan awgrymu y byddai'r Llywodraeth yn rhagori ar y targed erbyn diwedd tymor y Cynulliad. Rhagorodd y cynllun Troi Tai'n Gartrefi ar ei darged hefyd, gan sicrhau bod 7,500 o eiddo gwag yn cael eu defnyddio eto.
Parhaodd y grŵp trawsbleidiol ar dai i ddatblygu ei ffocws ar bob rhan o'r sector ac ar bob math o ddaliadaeth i lywio'r ddadl ynghylch tai yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar drefniadau i lesddeiliaid yng Nghymru, cael y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect tai cydweithredol, croesawu maniffesto Homes for All Cymru (H4AC) a gweithredu ar bryderon aelodau H4AC ynghylch Cod Ymarfer drafft y Sector Rhentu Preifat ar gyfer Landlordiaid ac Asiantau. Croesawodd y grŵp ddiweddariad hefyd gan Merthyr Valleys Homes ynghylch ei gynnydd o ran symud i fodel cydfuddiannol i randdeiliaid sy'n denantiaid ac yn weithwyr, y cyntaf o'i fath yng Nghymru. Cafodd y grŵp wybod hefyd am lansiad adroddiad comisiwn y Sefydliad Tai Siartredig ar wella amrywiaeth ymhlith arweinwyr ym maes tai ynghyd a sesiwn friffio ar ymgyrch Cartrefi i Gymru y sector cyfan.
Bydd grŵp trawsbleidiol ar dai Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cau'n ffurfiol cyn etholiad Llywodraeth Cymru ym mis Mai 2016, a'r bwriad yw ffurfio grŵp newydd gan wahodd aelodau o bob plaid wleidyddol a gynrychiolir yn y Cynulliad Cenedlaethol newydd.
Wrth symud ymlaen, dylai'r grŵp trawsbleidiol nesaf ar dai geisio adeiladu ar ddull cydweithredol a chydgynhyrchiol y grŵp hwn, lle'r oedd pob plaid o'r farn bod tai yn ffordd sicr o gyflawni canlyniadau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol cadarnhaol i Gymru.
Cydnabyddiaeth
Mae ymrwymiad ac ymroddiad y pedwar Aelod Cynulliad sy'n cynrychioli eu pleidiau wedi bod yn rhan bwysig o lwyddiant y grŵp. Bydd dau o'r aelodau hyn, Sandy Mewies a Jocelyn Davies, yn ymddiswyddo cyn yr etholiad nesaf ac rydym yn ddiolchgar i'r ddwy ohonynt am gefnogi'r grŵp ac am hybu tai dros y pum mlynedd diwethaf. Rydym yn ddiolchgar hefyd am ymrwymiad parhaus Peter Black a Mark Isherwood i'r grŵp. Mae'r pedwar Aelod Cynulliad wedi cefnogi'r grŵp ac agenda dai Cymru yn frwd ar hyd tymor y Cynulliad hwn.
Estynnir diolch arbennig i Paul Mewies, sydd wedi cefnogi'r grŵp trawsbleidiol dros y pum mlynedd diwethaf, gan gymryd cyfrifoldeb dros drefnu cyfarfodydd a chyd-drefnu gweithgareddau gyda Sefydliad Tai Siartredig Cymru.
Ym mis Medi 2015, gadawodd Helen Northmore ei swydd a chafodd y trefniadau ysgrifenyddol eu trosglwyddo dros dro i reolwr polisi a materion cyhoeddus Sefydliad Tai Siartredig Cymru. Felly, rydym yn croesawu ysgrifennydd newydd, Kevin Howells, ar gyfer misoedd olaf grŵp trawsbleidiol y tymor hwn, a bydd yntau'n dechrau ei swydd newydd fel Cyfarwyddwr Sefydliad Tai Siartredig Cymru ddechrau 2016.
Mae cyfran sylweddol o'r gymuned dai yn parhau i gefnogi'r grŵp drwy rwydwaith ymbarél Homes for All Cymru, sy'n cael ei gadeirio gan Shelter Cymru. Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran am fynd ati'n frwd i sicrhau bod y cyfarfodydd yn llwyddo ac i ddatblygu system dai unigol a dull cydweithredol sydd bellach yn symbol o'r maes tai yng Nghymru. Mae aelodau Homes for All Cymru yn edrych ymlaen at weithio gyda Chynulliad Cenedlaethol nesaf Cymru drwy'r grŵp trawsbleidiol ar dai, er mwyn dod â'r argyfwng tai i ben ac adeiladu Cymru gryfach.
Adroddiad gan: Julie Nicholas, Sefydliad Tai Siartredig Cymru ac Ysgrifennydd dros dro
Grŵp Trawsbleidiol ar Dai Cynulliad Cenedlaethol Cymru
ATODIAD: Aelodau Homes for All Cymru (H4AC) 2015
Cadeirydd: John Puzey, Shelter Cymru
Age Concern Cymru
Gofal a Thrwsio Cymru
Sefydliad Tai Siartredig Cymru
Cartrefi Cymunedol Cymru
Cymorth Cymru
Anabledd Cymru
Y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi
Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid
Cymdeithas y Landlordiaid Preswyl
RNIB Cymru
Rough Sleepers Cymru
Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig
Shelter Cymru
Tai Pawb
Gwasanaeth Cynghori Cyfranogiad Tenantiaid Cymru
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Cyngor Ffoaduriaid Cymru
Tenantiaid Cymru
Cymorth i Ferched Cymru
NODYN:
Nid oedd unrhyw lobïwyr proffesiynol yn rhan o unrhyw gyfarfodydd neu ddigwyddiadau, nac yn bresennol mewn unrhyw gyfarfodydd neu ddigwyddiadau, yn ystod y flwyddyn.
Rhestrir sefydliadau gwirfoddol ac elusennol a oedd yn bresennol mewn cyfarfodydd neu ddigwyddiadau, neu'n rhan ohonynt, mewn man arall.